(New edition in Welsh of the short stories of Richard Hughes Williams, including previously unpublished stories)
Amser blin y chwarelwr yw y gaeaf.
Roedd Richard Hughes Williams (1878-1919) yn un o awduron rhyddiaith blaenllaw ei oes yn yr iaith Gymraeg. Gwnaeth ei gyfraniad mwyaf sylweddol fel awdur straeon byrion, ac yn y maes hwnnw ystyrir ef yn arloeswr a fu'n ddylanwad sylweddol ar awduron diweddarach. Bu'n byw mewn sawl lle gwahanol yn rhinwedd ei yrfa fel newyddiadurwr, ond roedd yn enedigol o bentref Rhosgadfan, a chysylltir ef yn annatod gyda bro chwarelyddol Gwynedd, sy'n gefndir i'w straeon mwyaf adnabyddus.
Cyhoeddwyd casgliadau o'i straeon yn 1914 ac yn 1916; casglwyd y rhain ynghyd gyda rhai straeon mewn cyfrolau diweddarach ar l ei farwolaeth. Mae'r casgliad newydd hwn yn dwyn ynghyd yr holl straeon a gyhoeddwyd eisoes ynghyd rhai newydd nad ymddangosodd ar ffurf cyfrol o'r blaen.
Efe oedd y cyntaf i edrych ar y Stori Fer] o ddifrif.
-Kate Roberts
Ni fu'r stori fer Gymraeg yr un fath wedi iddo ef weithio arni.
Ni allai fod.
-E. Morgan Humphreys