Skip to content
Scan a barcode
Scan
Paperback Meddylfryd AR Gyfer Safon Uwch: 40 Gweithgaredd I Drawsffurfio Ymroddiad, Cymhelliant a Chynhyrchedd Myfyrwyr Book

ISBN: 1785836641

ISBN13: 9781785836640

Meddylfryd AR Gyfer Safon Uwch: 40 Gweithgaredd I Drawsffurfio Ymroddiad, Cymhelliant a Chynhyrchedd Myfyrwyr

Mae gan Steve Oakes a Martin Griffin dros 40 mlynedd o brofiad ar y cyd o addysgu a hyfforddi. Mae'r ddau wedi darganfod rhywbeth pwysig - nid y myfyrwyr sydd a chanlyniadau TGAU gwych, o anghenraid, sy'n dod yn eu blaenau yn dda ac yn gyson ar Safon Uwch. Mae rhai myfyrwyr yn neidio o gael canlyniadau cyffredin ym Mlwyddyn 11 i gael canlyniadau ardderchog ym Mlwyddyn 13. Mae eraill fel petaen nhw'n 'taro nenfwd'. Ond pam?Wrth iddyn nhw geisio ateb y cwestiwn hwn daeth y system VESPA i'r amlwg. Mae Steve a Martin wedi mynd at wraidd datblygu cymeriad ac wedi adnabod pum ymddygiad a nodwedd allweddol mae'n rhaid i bob myfyriwr eu cael er mwyn llwyddo: gweledigaeth, ymdrech, systemau, ymarfer ac agwedd. Mae'r nodweddion hyn yn llawer pwysicach na nodweddion gwybyddol. Trwy adnabod y nodweddion craidd sy'n cyfrannu at lwyddiant myfyrwyr, mae'r awduron wedi datblygu ystod eang o weithgareddau ymarferol i helpu pob myfyriwr i ddatblygu'r Meddylfryd Safon Uwch: 40 strategaeth glir, hygyrch a chymwys sydd wedi'u cynllunio i godi gwytnwch, positifrwydd, trefniadaeth a phenderfyniaeth myfyrwyr safon uwch. Ac yn yr adolygiad yma o'r llyfr, mae Steve a Martin yn cyflwyno ystod o astudiaethau achos a chyngor defnyddiol am sut i sefydlu'r model VESPA mewn ysgolion. Yn ogystal, maen nhw hefyd wedi ailysgrifennu'r rhagarweiniad i bob agwedd o'r model VESPA gan gynnwys gwybodaeth a mewnwelediadau newydd. Addas i athrawon, tiwtoriaid, arweinwyr Safon Uwch ac unrhyw un arall sydd am annog disgyblion safon uwch i gyflawni eu potensial.

Recommended

Format: Paperback

Condition: New

$18.52
Save $4.43!
List Price $22.95
On Backorder
If the item is not restocked at the end of 90 days, we will cancel your backorder and issue you a refund.
Usually restocks within 90 days

Related Subjects

Education Education & Reference

Customer Reviews

0 rating
Copyright © 2026 Thriftbooks.com Terms of Use | Privacy Policy | Do Not Sell/Share My Personal Information | Cookie Policy | Cookie Preferences | Accessibility Statement
ThriftBooks® and the ThriftBooks® logo are registered trademarks of Thrift Books Global, LLC
GoDaddy Verified and Secured