Mae'r llyfr yma wedi cael ei gyhoeddi i gydredeg efo canlyniadau profion cyntaf byd-eang PISA ar feddwl yn greadigol, y 'Creativity Collaboratives' sydd yn gweithredu yn Lloegr, a'r pwysigrwydd cynyddol ar feddwl creadigol yn fyd-eang. Mae Meddwl Creadigol mewn Ysgolion yn egluro sut gall arweinwyr ysgolion annog ei staff i sefydlu meddwl creadigol mewn pob agwedd o fywyd ysgol. Mae'n cynnig fframwaith i wneud hwn sy'n seiliedig ar y model Pump Arfer Creadigol a ddatblygwyd gan y Centre for Real-World Learning. Mae'r fframwaith yn pwysleisio datblygu dysgwyr sy'n chwilfrydig, dyfalbarhaus, cydweithredol, disgybledig a dychmygus. Yn seiliedig ar ymchwil a dadansoddiadau o ysgolion ar draws y byd, gan gynnwys astudiaethau fanwl ar bumdeg ysgol yn Lloegr yn ddiweddar, mae Meddwl Creadigol mewn Ysgolion yn cynnig ystod eang o adnoddau hygyrch ac enghreifftiau ymarferol. Maent yn cefnogi arweinwyr i fyfyrio ar ei phrif amcanion, deall y newidiadau sydd angen ei wneud er mwyn sefydlu meddwl creadigol yn ei ysgolion, datblygu arweinwyr o fewn ei staff, hwyluso datblygiad eu hathrawon, cynllunio, addysgu ac asesu meddwl yn greadigol, a gweithio gyda phartneriaid allanol, wrth ddatblygu cymuned ddysgu broffesiynol bywiog.Ynghyd a gwefan sy'n cynnwys deunyddiau ac astudiaethau achos ychwanegol y gellir eu lawrlwytho, mae'r llyfr yn dod a chymuned o arweinwyr ac athrawon ledled y byd at ei gilydd i gysylltu a'i gilydd a rhannu eu profiadau er mwyn datblygu, lledaenu, ymestyn a gwerthuso meddwl creadigol o fewn ac ar draws ysgolion.Bydd Meddwl Creadigol mewn Ysgolion yn cefnogi cymuned o arweinwyr ac athrawon sy'n gweld meddwl creadigol fel pwrpas craidd o fewn addysg ac sydd a diddordeb mewn ei wneud yn flaenoriaeth yn eu hysgolion. Bydd yn annog disgyblion i ddatblygu eu creadigrwydd o fewn y dosbarth, gan ganiatau i genedlaethau'r dyfodol i ffynnu mewn byd sy'n fwyfwy cymhleth.Mae Meddwl Creadigol mewn Ysgolion wedi cael i gefnogi gan y Mercers Company, Creativity, Culture and Education a'rArts Council of Wales.Addas i arweinwyr ysgolion a gwneuthurwyr polisi sy'n gweld meddwl creadigol fel pwrpas craidd o fewn addysg.Yn gynnwys: Rhagair gan Andreas SchleicherRhagair gan Professor Dame Alison PeacockRhagymadroddCydnabyddiaethauCyflwyniadRhan 1: RhybuddRhan 2: Chwarae'r Gem o DdysguAdnoddau
ThriftBooks sells millions of used books at the lowest
everyday prices. We personally assess every book's quality and offer rare, out-of-print treasures. We
deliver the joy of reading in recyclable packaging with free standard shipping on US orders over $15.
ThriftBooks.com. Read more. Spend less.