Skip to content
Scan a barcode
Scan
Paperback Gwynfyd [Welsh] Book

ISBN: 1917237200

ISBN13: 9781917237208

Gwynfyd [Welsh]

"Ma' pob trefn ar 'i gwanaf pan fo 'na wrthdaro oddi fewn. Ma'n rhaid inni ddeffro'r genedl. Ma'r Orsedd yn eu twyllo. Ffug i gyd yw'r Chwyldro Cynganeddol, rhyw orchudd er mwyn 'yn ca'l ni gyd i'w col. A nawr yw'n cyfle ni. Nawr ne' fyth. Newyddiadurwyr 'yn ni i fod 'n'defe? Rhaid inni weithredu er mwyn i bobol ca'l byw mewn rhyddid unweth 'to. Sytha'r asgwrn cefn 'na da ti."


Yr Ynys, dwy genhedlaeth ers y Chwyldro cynganeddol. Fel pawb arall, mae Maldwyn Tanat yn gwingo dan orthrwm yr Orsedd, ond yn mwynhau bywyd cymharol gyfforddus-hyd nes y daw'r cyfle un diwrnod iddo droi'n arwr digon cyndyn...


Dyma nofel gyntaf Ian Parri. Cyfuniad unigryw o ddystopia ac abswrdiaeth, dyma weledigaeth hollol wahanol o'r traddodiad llenyddol Cymraeg sydd yn ddoniol, yn arswydus ac yn heriol yn ei thro.


"Dystopia dychrynllyd yw thema Gwynfyd, ac mae'r byd wedi ei saern o'n ofalus. Gyda phob cam, mae'r plot yn datgelu realaeth ofnadwy... Mae Gwynfyd yn nofel ddifyr a dychrynllyd, ac Ian Parri yn awdur sy'n gwybod sut i dynnu darllenydd i mewn i fyd stori."

-Manon Steffan Ros


Bwriad cyfres Bydoedd Amgen Melin Bapur yw ehangu ystod y llyfrau sydd ar gael yn y Gymraeg ym meysydd ffuglen ddamcaniaethol-sef ffantasi, ffuglen wyddonol, hanes amgen, ac arswyd-drwy gyhoeddi gweithiau newydd a chyfieithiadau, ac ail-gyhoeddi gweithiau y mae eu hap l yn parhau.



Recommended

Format: Paperback

Condition: New

$17.37
Ships within 2-3 days
Save to List

Related Subjects

Fiction Literature & Fiction

Customer Reviews

0 rating
Copyright © 2026 Thriftbooks.com Terms of Use | Privacy Policy | Do Not Sell/Share My Personal Information | Cookie Policy | Cookie Preferences | Accessibility Statement
ThriftBooks ® and the ThriftBooks ® logo are registered trademarks of Thrift Books Global, LLC
GoDaddy Verified and Secured