Skip to content
Scan a barcode
Scan
Paperback Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill [Welsh] Book

ISBN: 1917237359

ISBN13: 9781917237352

Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill [Welsh]

Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill

Eben Fardd

Eben Fardd oedd enw barddol adnabyddus Ebenezer Thomas (1802-1863). Yn enedigol o Lanarmon, Gwynedd, gweithiodd fel athro mewn nifer o ysgolion yn Eifionydd a Llŷn, ac mewn m n swyddi eraill.

Roedd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth yn amlwg o'n gymharol ifanc, a daeth ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf yn 1824 pan enillodd cadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng, gyda'i awdl Dinistr Jerusalem, ei gerdd fwyaf ac enwocaf. Daeth llwyddiannau niferus eraill iddo mewn eisteddfodau rhanbarthol dros y degawdau nesaf; roedd hefyd yn emynydd o fri. Bu farw ond ychydig flynyddoedd ar l sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol ac nid enillodd yr un o brif wobrau'r sefydliad hwnnw, er iddo gystadlu'n aflwyddiannus yn Eisteddfod 1862 gyda'i awdl Y Flwyddyn.

Eben Fardd oedd un o feirdd Cymraeg mwyaf a phwysicaf ei oes: yng ngeiriau Thomas Parry, "gellir dweud fod ynddo fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Gwelir yn ei waith cynnar uchafbwynt clasuriaeth ddisgrifiadol y Gymraeg, ac yn ei waith diweddarach dechrau Rhamantiaeth.

Recommended

Format: Paperback

Condition: New

$17.37
Ships within 2-3 days
Save to List

Related Subjects

Poetry

Customer Reviews

0 rating
Copyright © 2026 Thriftbooks.com Terms of Use | Privacy Policy | Do Not Sell/Share My Personal Information | Cookie Policy | Cookie Preferences | Accessibility Statement
ThriftBooks ® and the ThriftBooks ® logo are registered trademarks of Thrift Books Global, LLC
GoDaddy Verified and Secured