Skip to content
Scan a barcode
Scan
Hardcover Cyswllt [Welsh] Book

ISBN: 1917237448

ISBN13: 9781917237444

Cyswllt [Welsh]

Cyfrol o farddoniaeth gyda darluniau gwreiddiol mewn lliw.Tarddodd Cyswllt o angen siarad am bethau sy'n cael eu gwthio i ymylon bywyd cymdeithasol, o angen i chwilio am ddealltwriaeth ac i ymgynefino phwnc anabledd. Dyma lyfr sy'n bwriadu datgelu'r emosiynau a'r diymadferthwch y mae rhieni a gofalwyr plant gydag anableddau yn eu wynebu. Gw wyd y cerddi o gariad ac anobaith, siom, bliner, a'r grym mewnol sy'n helpu rhywun cludo baich pob diwrnod. Un nod pwysig sydd iddynt: meithrin gobaith y gall pethau fod yn well os dyn ni'n dofi ofn arwahanrwydd.Mae Jadwiga Graboś yn ysgrifennu cerddi, rhyddiaith a chaneuon. Ers 2019, mae wedi cyhoeddi tair chyfrol o farddoniaeth ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chylchgronau llenyddol yng Ngwlad Pwyl, a chafodd rhai eu cyfieithu i Lithwaneg. Enillodd ei thrydedd gyfrol Cyswllt y brif wobr yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Llyfr Llenyddol Gwreiddiol Świdnica 2023. Graddiodd mewn Almaeneg a'r Gyfraith o Brifysgol Maria Curie-Sklodowska yn Lublin ac Astudiaethau Llenyddol a Chelfyddydol o'r Brifysgol Jagiellonaidd yng Nghracof. Mae hi'n byw yn Lublin ac yn gweithio yno fel athrawes ysgol uwchradd. Mae'n ymddiddori mewn theatr, ffilm, cerddoriaeth a chelfyddyd. Ar hyn o bryd, mae hi'n astudio paentio yn Academi Celfyddydau Cain Cracof. Mae ganddi bedwar o blant.Mae Marta Listewnik yn ddarlithydd Cymraeg a llenyddiaeth Gymreig ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań. Mae wedi cyfieithu a chyhoeddi pedair nofel Gymraeg ym Mhwyleg ers 2017. Hwn, fodd bynnag, yw ei chyfieithiad cyhoeddedig cyntaf i'r Gymraeg.

Recommended

Format: Hardcover

Condition: New

$25.99
Ships within 2-3 days
Save to List

Related Subjects

Poetry

Customer Reviews

0 rating
Copyright © 2026 Thriftbooks.com Terms of Use | Privacy Policy | Do Not Sell/Share My Personal Information | Cookie Policy | Cookie Preferences | Accessibility Statement
ThriftBooks ® and the ThriftBooks ® logo are registered trademarks of Thrift Books Global, LLC
GoDaddy Verified and Secured